Elusen y Flwyddyn
Bydd Cadeirydd CFfI Cymru yn dewis achos da i'w gefnogi bob blwyddyn.Â
![]() |
Dewiswyd ‘British Heart Foundation Cymru’ a’i apêl ‘Does dim amser i aros’ fel elusen y flwyddyn CFfI Cymru ar gyfer 2012-2013.
Â
Pam cefnogi BHF Cymru
Gall clefyd y galon daro ar unrhyw un, unrhyw bryd. Mae 27,000 o bobl ifanc y Deyrnas Unedig yn byw hefo clefyd ar y galon, gyda 39 o bobl yn marw’n ddyddiol yng Nghymru oherwydd hyn. Mewn achos o anhwylder y galon, mae amser yn holl bwysig!! Yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig, gyda’r ysbyty mor bell i ffwrdd.
Â
Pwy ydi BHF CymruÂ
![]() |
BHF Cymru - elusen calon y genedl
Elusen calon Cymru. Ei nod yw cael byd lle nad yw pobl yn marw’n ifanc o glefyd y galon. Llwyddant  i gyrraedd y nod trwy waith ymchwil arloesol, gwaith ataliol hanfodol a thrwy sicrhau gofal a chefnogaeth o safon uchel i bawb sy’n byw gyda chlefyd y galon.Â
Cliciwch yma i fynd i wefan BHF Cymru.
Â
Apêl ‘Does dim amser i aros’
“Pan fydd trawiad y galon yn taro, mae’r cloc yn dechrau tician. Rhowch rodd nawr, a’n helpu i achub rhagor o fywydau yng Nghymru.â€
Mae BHF Cymru a gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymgyrchu gyda’u gilydd i gael mwy o ddiffibrilwyr yn y gymuned ac i ddysgu ‘sgiliau Bywyd Mewn Argyfwng’ i fwy o bobl. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn a fydd yn helpu i achub bywydau yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Â
Hysbyseb
Cyfle i wylio hysbyseb swyddogol BHF am sut i arbed bywyd yma
Â
Cysylltiadau
Os hoffech gysylltu a BHF yn eich ardal leol, dyma’r manylion cyswllt ar gyfer y tri rheolwr rhanbarthol;
Canolbarth a Gorllewin Cymru: Jayne Lewis - 01554 891500 /Â lewisj@bhf.org.uk
De Ddwyrain Cymru: Clare Cassidy - 01562 740081 / cassidyc@bhf.org.uk
Gogledd Cymru: Sion Owain Edwards - 01745 888161 / edwardss@bhf.org.uk
Â
Adnoddau
Mae’r BHF yn cynhyrchu nifer o adnoddau clefyd y galon, cyflwr y galon a sut i edrych ar ôl iechyd eich calon. I archebu rhain am ddim, cliciwch yma.Â
Â
Ein nod am y flwyddynÂ
Ein bwriad yn ystod y flwyddyn ydi i godi arian ar gyfer peiriannau diffibrilwyr mewn mannau gwledig ar draws Gymru.
Gobeithiwn godi o leiaf £18,000 i apel "does dim amser i aros". Byddai hyn yn ddigol o arian i ddod o hyd i 12 diffibriliwr yn y gymuned ac i hyfforddi pobl leol i'w defnyddio.
Byddwn yn cynnal taith gerdded i gopa mynydd pob sir yn ystod y flwyddyn, dewch i ymuno a ni! (cliciwch yma am ddyddiadau)
Helpwch ni i gefnogi calonnau Cymru:
Ffurflen noddi  (dychwelwch i Ganolfan CFfI Cymru)
Â
Â
Â
Â






